Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 27 Mehefin 2022
Amser:
13.30 -
14.12
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12869
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Alun Davies AS Tom Giffard AS (yn lle James Evans AS) |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Claire Fiddes (Dirprwy Glerc) Josh Hayman (Ymchwilydd) Philip Lewis (Ymchwilydd) Lucy Valsamidis (Ymchwilydd) Craig Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Anfonodd James Evans AS ei ymddiheuriadau. Dirprwyodd Tom Giffard AS ar ei ran.
2 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
2.1 SL(6)210 - Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
3.1 SL(6)212 - Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
3.2 SL(6)214 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) (Diwygio) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol
3.3 SL(6)213 - Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd ac, yn ogystal, i adrodd bod rheoliad 3(1) o'r rheoliadau hefyd yn cynnwys cyfeiriad anghywir at reoliad 3, lle y dylai gyfeirio at reoliad 2.
4 Fframweithiau cyffredin
4.1 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus at Weinidog yr Economi, a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Fframweithiau Cyffredin Dros Dro ar gyfer Taliadau Hwyr a Chaffael
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus at Weinidog yr Economi a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
5 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
5.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) 2022
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.
6 Papurau i’w nodi
6.1 Mesur Hawliau Llywodraeth y DU
Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a’r ohebiaeth gan yr Arglwydd Ganghellor ac Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder.
6.2 Gohebiaeth gan Cyswllt Amgylchedd Cymru, Awyr Iach Cymru a Greener UK at y Prif Weinidog: Mae Cymru angen mynediad at gyfiawnder amgylcheddol
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Cyswllt Amgylchedd Cymru, Awyr Iach Cymru a Greener UK at y Prif Weinidog.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
8 Deddfau Cydgrynhoi'r Senedd: Rôl y pwyllgor cyfrifol
Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio am rôl y pwyllgor cyfrifol wrth graffu ar Ddeddfau Cydgrynhoi'r Senedd.
9 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Ar-lein: Trafod yr adroddiad drafft
Bu'r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Etholiadau a chytunodd arno.
10 Cytundeb Masnach a Chydweithredu y DU a’r UE
Trafododd y Pwyllgor ei ymateb i ymchwiliad Pwyllgor Craffu Ewropeaidd Tŷ’r Cyffredin ynghylch ‘Cynrychiolaeth y DU yn yr UE: beth sydd wedi newid a sut mae’n gweithio?’, a chytunodd arno yn amodol ar fân ddiwygiadau.